
Croeso i Glwb Rasio BMX Llynfi!
Rydym yn glwb BMX cyfeillgar ym Maesteg, wedi cysylltu â Beicio Cymru a British Cycling. Mae beicwyr o bob oedran a sgiliau’n cael eu croesawu – o blant 3 oed i oedolion yn eu 50au a thu hwnt.
Nid oes angen i chi fod yn raswr nac yn aelod i feicio ar ein trac – dewch i fwynhau!
Dewch i roi cynnig ar sgiliau gamp Olympaidd.
Sesiwn Agored – Croeso Cynnes i Bawb
Rydym yn rhedeg sesiynau agored wythnosol lle gall unrhyw un ddod i feicio ar y trac.
- Cost: £2 i aelodau / reidwyr lleol, £4 eraill
- Beic a helmed ar gael i’w llogi
- Croeso cynnes i bawb
- Parcio ar y safle
- Snaciau a diodydd ar gael
Dim angen bwcio – dim ond troi lan a reidio!
Mwy o wybodaeth yn y cwestiynau cyffredinol
Hyfforddiant BMX – Dysgwch gyda arbenigwyr

Eisiau datblygu eich sgiliau?
Mae ein hyfforddwyr sydd gyda cymwysau British Cyclingyn rhedeg sesiynau yn rheolaidd i’ch helpu i ddysgu a gwneud cynnydd.
Newydd i BMX? Dechreuwch gyda sesiwn agored i gael blas!
Dewch i drio Rasio BMX – Hwyl, Cyflym ac i bawb
Mae rasio BMX yn ganolbwynt ein clwb – ac mae ar gyfer pawb!
- Mae pobl o bob oedran a gallu yn rasio gyda’i gilydd
- Cymdeithasol ac yn hwyl
- Dugwyddiadau lleol
- Yr ydym yn rhan o gyfres rasio Rhanbarth BMX y De Orllewin – o Benybont Ar Ogwr i Gernyw
Newydd i rasio? Dim problem! Dewch i sesiwn agored neu sesiwn hyfforddi – yr ydym yn hapus i helpu chi ar eich siwrne BMX.
Newyddion diweddaraf
Cyn cychwyn ar eich daith i’r trac, edrychwch ar ein tudalen Facebook neu Instagram i gadarnhau bod y sesiwn yn rhedeg fel y disgwyl.
