Mae’r wefan hon yn cael ei chynnig gan Glwb Rasio BMX Llynfi, clwb chwaraeon sydd wedi’i leoli yng Nghwm Llynfi, Maesteg, Cymru.
Rydym yn cymryd eich preifatrwydd o ddifrif – dim ond y data sydd ei angen arnom i allu darparu ein gwasanaethau i chi a gasglwn. Nid ydym yn rhannu eich data ag unrhyw sefydliadau eraill, ac rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y data sydd gennym yn cael ei gadw’n ddiogel.
Pa ddata personol a gasglwn a pham rydym yn ei gasglu
Ymholiadau ac Archebion
Pan fyddwch yn cyflwyno ymholiad neu archeb, rydym yn casglu manylion eich ymholiad neu archeb, a manylion cyswllt neu wybodaeth arall a ddarparwch i ni. Caiff y wybodaeth hon ei chasglu’n unig er mwyn ymateb i’ch ymholiad neu gyflawni eich archeb.
Manylion Taliad
Nid ydym yn cadw manylion cerdyn na chyfrif banc yn barhaol ar unrhyw un o’n systemau. Os ydych yn gwneud taliad cerdyn trwy ein gwefan, caiff y taliad ei brosesu’n allanol gan PayPal (https://www.paypal.com/uk/webapps/mpp/ua/privacy-full). Os gofynnwch i’ch manylion cerdyn gael eu cofio, caiff eich manylion eu trosglwyddo drwy gysylltiad wedi’i amgryptio at PayPal a’u cyfnewid am docyn, sy’n cael ei storio yn ein cronfa ddata.
Cwcis
Cwcis Swyddogaethol
Ni chaiff unrhyw gwcis swyddogaethol eu gosod pan ymwelwch â’n gwefan.
Cwcis Dadansoddi
Ni chaiff unrhyw gwcis dadansoddi eu gosod pan ymwelwch â’n gwefan. Caiff data dadansoddi ei gasglu gan sgriptiau nad ydynt yn casglu unrhyw ddata adnabod personol ac nad ydynt yn olrhain defnyddwyr rhwng gwefannau. Am ragor o wybodaeth ewch i: https://plausible.io
Cwcis Marchnata
Nid yw ein gwefan yn gosod unrhyw gwcis marchnata yn uniongyrchol.
Gall cynnwys wedi’i fewnosod o wefannau eraill (fel mapiau Google, fideos YouTube neu Vimeo a ffrydiau cyfryngau cymdeithasol) ymddwyn yn union yr un modd â phe bai’r ymwelydd wedi ymweld â’r wefan arall. Yn eu gweithrediadau safonol, gall y gwefannau hyn gasglu data amdanoch, defnyddio cwcis, mewnosod olrhain trydydd parti ychwanegol, a monitro eich rhyngweithio gyda’r cynnwys hwnnw, gan gynnwys olrhain eich rhyngweithio os oes gennych gyfrif (fel cyfrif Google neu Facebook) ac rydych wedi mewngofnodi i’r cyfrif hwnnw yn eich porwr gwe. Rydym yn gwneud pob ymdrech rhesymol i sicrhau bod unrhyw gynnwys Trydydd Parti sydd wedi’i fewnosod yn ein gwefan yn cael ei atal rhag gosod cwcis ychwanegol at ddibenion olrhain a marchnata.
I atal unrhyw wefan rydych yn ymweld â hi rhag gosod cwcis Trydydd Parti, gellir eu hanalluogi yn adran preifatrwydd gosodiadau eich porwr gwe – am gyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn yn y prif borwyr, ewch i wefannau cymorth y darparwyr: Google Chrome, Apple Safari, Mozilla Firefox neu Microsoft Edge.
Os hoffech ddiogelu eich preifatrwydd ac osgoi cael eich olrhain at ddibenion marchnata a hysbysebu wrth bori mewn mannau eraill ar y rhyngrwyd, efallai yr hoffech ystyried defnyddio porwr sy’n canolbwyntio ar breifatrwydd fel Mozilla Firefox (https://www.mozilla.org/en-GB/firefox/new/) neu Brave (https://brave.com).
Diogelwch a Diogelu rhag Sbam
Mae’r wefan hon yn defnyddio meddalwedd i ddiogelu rhag mewngofnodi heb ganiatâd, sbam a gweithgaredd maleisus arall. Lle caiff gweithgaredd maleisus ei ganfod, caiff yr IP o ble y daeth ei storio.
Pa mor hir rydym yn cadw eich data
Os byddwch yn darparu eich manylion cyswllt neu wybodaeth arall i ni, byddwn yn ei gadw am gyfnod amhenodol, oni bai eich bod wedi gofyn yn benodol fel arall neu nes i chi ofyn i’w ddileu. Yn ystod y cyfnod hwnnw, dim ond at y diben(ion) y rhoddwyd eich caniatâd ar eu cyfer y byddwn yn eu defnyddio – megis gohebiaeth am gwestiwn neu gais, derbyn diweddariadau newyddion, neu brosesu archebion.
Pa hawliau sydd gennych dros eich data
Gallwch ofyn am fanylion llawn o unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch. Gallwch hefyd ofyn i ni ddileu unrhyw ddata personol sydd gennym amdanoch. Nid yw hyn yn cynnwys unrhyw ddata y mae’n ofynnol i ni ei gadw at ddibenion gweinyddol, cyfreithiol, neu ddiogelwch.
Ble rydym yn anfon eich data
Mae’r wefan hon wedi’i chynnal ar weinydd diogel sydd wedi’i leoli o fewn yr UE. Caiff eich gwybodaeth gyswllt, a gwybodaeth ar gyfer rheoli eich gwefan, hefyd ei chadw’n ddiogel yn ein systemau cyfrifiadurol ein hunain neu storfa cwmwl (gweler isod).
Gweithdrefnau tor-data
Os byddwn yn amau bod unrhyw fynediad heb awdurdod wedi digwydd, neu ddatgelu data personol sydd gennym, byddwn yn hysbysu ar unwaith unrhyw un y credwn a allai fod wedi cael ei effeithio.
Gwybodaeth gyswllt
Am unrhyw fater sy’n ymwneud â phreifatrwydd neu storio a phrosesu data personol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.
